Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Tachwedd 2011

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

1.    Ar 28 Tachwedd 2011, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 22 Tachwedd 2011, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 30 Mawrth 2012.

4.    Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 1 Mehefin 2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.